We’ve updated our Terms of Use to reflect our new entity name and address. You can review the changes here.
We’ve updated our Terms of Use. You can review the changes here.

Un Tro

by Siddi

/
  • Streaming + Download

    Purchasable with gift card

     

about

Dyma gan olaf ein halbwm o'r un enw, 'Un Tro', a fydd allan Ionawr 14eg.
Diolch am eich cefnogaeth.
This is the title track of our forthcoming album, out January 14th.

lyrics

- - - - - - - - - -
Dyma'r stori sy'n gefnlen i'r albwm...

Un tro, roedd bugail o gwm Cynllwyd o’r enw Einion yn gwarchod ei ddefaid, pan yn sydyn fe welodd y ferch harddaf a welsai erioed yn ymolchi ar lan llyn cyfagos. Syrthiodd mewn cariad gyda hi, ac roedd am ei phriodi’n syth.
Aethai ati er mwyn cael sgwrs a hi, a gofyn ei llaw mewn priodas, ond ynganodd y ferch yr un gair, dim ond amneidio ar i Einion i’w dilyn.
Anghofiodd Einion ei holl ddyletswyddau, gadawodd y defaid ac aethai ar ei union ar ôl y ferch. Dilynodd hi heibio i graig ar ochr y mynydd, ac ni fedrai gredu ei lygaid wrth weld y plasty a’i croesawai ar yr ochr draw. Roedd popeth yno’n ysblennydd. Pob dantaith y gallai ddychmygu o’i flaen, a’r ferch, Olwen, bellach yn medru siarad ag ef. “Einion, rwyf wedi dod â thi i Balas y Tylwyth Teg. Rwyf wedi bod yn dy wylio ers amser, ac yn awyddus i ni’n dau briodi.” Anghofiodd Einion bopeth am ei gartref ar lethrau Cynllwyd, am ei fam druan a’i braidd, ac aeth i ofyn i Frenin y Tylwyth Teg am law ei ferch mewn priodas. Nid oedd y brenin yn rhy siwr ar y dechrau, ond fe gytunodd, a bu priodas fawr i ddathlu uniad y ddau ifanc.
Wedi blwyddyn lawen ym Mhlasty’r Tylwyth Teg, dechreuodd Einion hel meddyliau am ei hen gartref. Er mor hyfryd oedd popeth o’i amgylch, ysai am weld ei fam druan ac roedd yn awyddus i fynd a’i briod gartref.
Wedi perswadio Olwen i symud gydag ef yn ôl i Lanuwchllyn, tasg anos oedd perswadio ei thad mai peth doedd oedd mudo o wlad y Tylwyth Teg.
“Einion, mae’n rhaid i ti addo gwarchod fy merch gydol yr amser y byddwch yn nhir y marwolion. Fel arwydd o fy ewyllys da i fe gewch chi yrr o’r gwartheg gorau sydd gennyf i fynd gyda chi. Ond, mae’n rhaid i tithau roi dy addewid i mi na fydd cweryla fyth rhyngoch eich dau. Os bydd i chi ffraeo dair gwaith, yna bydd Olwen yn dychwelyd ar ei hunion i wlad y Tylwyth Teg. Ydi hyn yn glir?”
Cytunodd Einion ar unwaith, a cychwynnodd y ddau yn ôl i Lanuwchllyn.
Teimlad braf oedd bod nôl adref, meddyliodd Einion, ond roedd popeth o’i amgylch fel petai wedi newid rhywsut. Sylwodd fel yr oedd y caeau yn edrych yn wyllt, ac wrth nesau at ei gartref, sylwodd mai adfail oedd yno bellach. Disgynnodd oddi ar y ceffyl, wedi torri ei galon yn lan, pan ddaeth dieithryn ar hyd y cae. Holodd Einion ef beth ddaeth o’r hen gartref, ac meddai’r dieithryn, “Can mlynedd yn ôl, roedd yma fferm fechan, ble roedd mam a mab yn cyd-fyw â’i gilydd yn rhadlon. Ond un dydd, fe ddygwyd y bachgen i ffwrdd gan y Tylwyth Teg, ac ni ddaeth fyth yn ôl. Bu farw’r fam o dor calon, ac aeth y fferm yn adfail.”
Yn ei chwerwder, gwylltiodd Einion â Olwen am feiddio ei arwain oddi wrth ei fam. Ni ddywedodd Olwen ddim, ond atgoffodd ef ei fod wedi torri un allan o’r tri cynnig o’i chadw fel gwraig. Anwybyddodd Einion hi, ac aethai ati’n syth i ail godi’r cartref.
Aethai amser heibio, a chyda’r stoc da o wartheg, ni bu Einion ac Olwen fawr o dro’n codi’r hen fferm yn ôl ar ei thraed. Ond roedd y cywilydd o’r hyn a wnaeth i’w fam yn bwyta Einion yn fyw, ac roedd Olwen yn ei gweld hi’n anoddach i fyw yn Llanuwchllyn bob dydd. Doedd hi heb arfer a gweld ei chroen yn heneiddio a’r dyddiau’n llawn oerfel.
Ar ôl y drydedd ffrae, dechreuodd Olwen wylo’n hidl. Trodd oddi wrth Einion, ac yn ei fraw sylweddolodd yr hyn yr oedd wedi ei wneud. Ceisiodd afael ynddi’n dynn, ond doedd dim iws. Daethai ei thad i’w chyfarfod ar draws y cae, a chyda bloedd anferth, dechreuodd holl stoc y fferm ei dilyn mewn un rhes. Ceisiodd Einion redeg ar eu hôl, gan edifarhau am y drwg a wnaethai, ond ni throdd Olwen yn ol. Roedd hi wedi mynd am byth.
Bob nos wedi hynny, byddai Einion yn edrych ar draws y cwm, at y llyn gan obeithio gweld ei wraig yn codio ohono fel y gwnaethai o’r blaen. Mor rhyfedd oedd yr adeg honno o’i fywyd, nes, yng ngolau’r lloer, fedrai Einion ddim peidio a meddwl a fuodd o yng ngwlad y tylwyth teg go iawn?

credits

released January 14, 2013

license

all rights reserved

tags

about

Siddi Gwynedd, UK

Mae Un Tro yn albwm gysyniadol 9 trac, sy'n defnyddio hen stori dylwyth teg fel cefnlen; gyda phob can yn feicroscop ar ddarnau bach o’r hanes trist.
Mae'r brawd a'r chwaer, Branwen ac Osian wedi bod yn gweithio ar yr albwm ers dwy flynedd, ymysg chwarae gyda'r bandiau Cowbois Rhos Botwnnog a Candelas.
siddiband@gmail.com
... more

contact / help

Contact Siddi

Streaming and
Download help

Report this track or account

If you like Siddi, you may also like: